Wednesday, 30 April 2008

TRAFNIDIAETH


Mae gan Efrog Newydd un o'r systemau trafnidiaeth mwyaf a'r henaf yn Yr Unol Daleithiau. Y dyddiau yma, mae nifer o broblemau gan y ddinas i ddatrys. Mae Ynys Manhattan yn uchel iawn mewn dwysedd poblogaeth ac mae llawer iawn o'r adeiladau yn denau ond wedi eu hadeiladu yn uchel. Mae tir unigrwy Dinas Efrog Newydd hefyd wedi bod yn broblem i benseïrniwyr.


Mae trafnidiaeth yn Efrog Newydd yn gymysgedd o systemau cymhleth. Mae Dinas Efrog Newydd, y ddinas fwyaf yn Yr Unol Daleithiau, yn cynnwys nifer fawr o ffyrdd gwahanol o drafnidiaeth. Mae Efrog Newydd hefyd yn adnabyddus am ei ddefnydd cyson o trafnidiaeth cyhoeddus. Mae dros 90% o Americanwyr yn gyrru i'r gwaith, ond mae 1/3 o bobl Efrog Newydd yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus. Yn Yr Unol Daleithiau, dim ond 8% o deuluoedd sydd ddim yn berchen ar gar. Yn Manhattan, mae 75% o'r ynys yn byw heb geir. Mae'r ddinas yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth i leihau Cynhesu Byd Eang ac fe fafodd $4.6 biliwn o bunnoedd gan ddefnyddio fyrdd gwahanol o drafnidiaeth.


Yn yr hen oesodd, y prif ffurff o drafnidiaeth oedd y Llongau Dŵr Cadarn ar draws yr Afon Hudson. Erbyn hyn, mae'r ffurff y trafnidiaethau wedi newid. Mae 32% o'r boblogaeth yn defnyddio'r Metro, mae 25% yn gyrru yn eu cludiant eu hunain, mae 14% yn dal bws, mae 8% yn teithio ar y tren, mae 6% yn rhannu lifftiau, mae 1% yn dal tacsi, 0.4% yn reidio eu beiciau ac mae 0.4% yn teithio ar gwch.


I gymharu â'r "prif-ddinasoedd" eraill yn Yr Unol Daleithiau, mae Efrog Newydd yn cymharu'n dda o ran effeithrwydd trafnidiaeth.


Byddai car arferol yn treulio


  • 23 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Efrog Newydd

  • 50 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Los Angeles

  • 37 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Chicago

Byddai car arferol yn gwario



  • $383 y flwyddyn ar arian tollau yn Efrog Newydd

  • $855 y flwyddyn ar arian tollau yn Los Angeles

  • $631 y flwyddyn ar arian tollau yn Chicago

Dyma faint o amser brys ar y strydoedd sydd i gael



  • 6 awr o amser brys y diwrnod yn Efrog Newydd

  • 8 awr o amser brys y diwrnod yn Los Angeles

  • 8 awr o amser brys y diwrnod yn Chicago

Mae nifer o fyrdd gwahanol yn cael ei defnyddio yn dyddiol ac mae llawer ohonynt yn cynnwys teithio dros bont. Mae Brooklyn Bridge yn enwog iawn. Dyma yw'r bont hynaf yn y ddinas ac mae'n sefyll ar daldra o 5,989 troedfedd. Mae miloedd o geir yn teithio ar hyd y bont yma bob blwyddyn




No comments: