Thursday, 15 May 2008

PROBLEMAU

Mae llawer o broblemau yn Efrog Newydd. Un o'r rhai mwyaf amlwg ydy twymo byd eang. Mae Efrog

Saturday, 3 May 2008

CHWARAEON


Talaeth Efrog Newydd oedd y gwesteiwyr ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf, ym 1980 a gynhaliwyd yn Lake Placid. Roedd y gemau yma yn arbennig yn Yr Unol Daleithiau oherywdd i grwp o fyfyrwyr coleg guro tîm proffesiynol o Rwsia. Roedd Lake Placid hefyd yn gartref i'r Gemau Olympaidd Gaeaf ym 1932. Ynghyd â 'St. Moritz' o'r Swistir, a 'Innsbruck' o Awstria, mae'n un o'r tri lle i'r Gemau gael eu cynnal.


  • Mae Efrog Newydd yn gartref i un tîm Pêl-Droed Americanaidd sef y Buffalo Bills. Mae'r 'Giants' a'r 'Mets' yn cynrychioli ardal metropolitan Efrog Newydd.

  • Dau dîm Pêl-Fâs proffesiynol sydd i'w cael yn y dalaeth. 'New York Mets (Queens)' a'r tîm Pêl-Fâs mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn y byd, 'New York Yankees (Bronx).'

  • Mae tri tîm Hoci yn Efrog Newydd. 'New York Rangers (Manhattan)', 'New York Islanders (Long Island)' a'r 'Buffalo Sabres (Dinas Efrog Newydd)'.

  • Mae un tîm Pêl Fasged i'w cael yn Efrog Newydd hefyd, sef y 'New York Knicks' sydd i'w gweld ym Manhattan.

Thursday, 1 May 2008

ADDYSG


Mae Prifysgol Talaeth Efrog Newydd yn gyfrifol am holl ysgolion Cynradd, Lefel Canol ac Uwchradd yn y dalaeth, pan fod Adran Addysg Dinas Efrog Newydd yn gyfrifol am yr holl Ysgolion Preifat yn Ninas Efrog Newydd. Wrth gyrraedd Lefel Coleg, mae'r SUNY yn gyfrifol am eich addysg. Yr State University of New York (SUNY) yw'r adran addysg orau yn Yr Unol Daleiethiau. Mae'r SUNY yn gyfrifol am y 4 o Brifysgolion; Prifysgol Albany, Prifysgol Binghamton, Prifysgol Buffol a SUNY Stony Brook. Mewn cyfanswm, mae Talaeth Efrog Newydd yn gartref i dros 307 o sefydliadau cymorthdal, un talaeth y tu ôl i California. Yn Efrog Newydd, mae dros 1,000,000 o blant yn cael eu haddysgu mewn dros 1,200 o ysgolion gwahanol.

GWLEIDYDDIAETH A LLYWODRAETH



Yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae Talaeth Efrog Newydd wedi cael ei reoli gan aelodau o'r Blaid Ddemocrataidd yn Yr Etholiadau Rhyngwladol. Mae pob plaid llwyddiannus yn cael lle yn y 'New York State Capitol Building', gwelir y llun uchod Caiff bob Arlywydd Talaeth aros yn y swydd am bedair blynedd. Yn 2004, fe enillodd yr ymgeisydd John Kerry gan 18% o'r pleidleisiau. Pediar mlynedd ynghynt, Al Gore oedd yn fuddugol gan ganran hyd yn oed yn llai eto. Mae Dinas Efrog Newydd yn ardal cryf Ddemocrataidd mewn gwleidyddiaeth rhyddfrydig. Mae nifer o'i ardaloedd trefol, megis Albany, Buffalo, Rochsester a Syracuse, yn Ddemocrataidd hefyd. Er hyn, mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd Gogleddol yn tueddu ffafrio'r Gwerinweithwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r arian nawdd yn cael ei godi yn Ninas Efrog Newydd ar gyfer y ddau blaid.


Fel ym mhob un o'r 50 talaeth, mae Pennaeth y Gangen Weithredol o Lywodraeth Efrog Newydd yn dod yn Lywodraethwr. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r talaethiau eraill, mae nifer o bartïon gwahanol yn cael cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae rhai yn bleidiau bychan sydd yno er mwyn ceisio dylanwadu'r prif bleidiau, pan mae eraill yno er mwyn ceisio am le yn y Llywodraeth. Mae'r llwyodraeth yn cymryd 82 sent o bob $1. Mae'r ffigwr yma yn cyrraedd safle 42 yn yr holl dalaethiau.

TIWRITSIAETH


Mae tiwristiaeth yn Efrog Newydd yn fusnes eithaf mawr ac mae tua 40,000,000 o ymwelwyr yn teithio yno bob blwyddyn o dramor neu o ardaloedd gwahanol yn America. Mae'r prif atyniadau yn cynnwys Tŵr Empire State, Ellis Island, Theatrau Broadway, Amgueddfa Celfyddydol y Metropol, Central Park, Canolfan Rockefeller, Times Square, Sŵ Bronx a Gerddi Botanegol Efrog Neywdd. Mae nifer o diwristiaid yn ymweld â'r ddinas oherwydd ei amrediad anferthol o siopau yn enwedig ar 5th Avenue a Madison Street.


Mae diwylliant bwyd mawr yn y ddinas sy'n denu llawer o noddwyr ciniawa. Mae llawer o ymfudwyr Eidaleg ac Iddewig wedi creu'r ddinas yn enwog gyda bwydydd fel bagels, cacennau caws a'r 'Pitsa Arddull Efrog Newydd.' Mae dros 4,000 o werthwyr bwyd yn y ddinas sy'n gyfrifol am stondinau ar hyd y strydoedd


Central Park yw'r atyniad mwyaf yn Efrog Newydd. Mae gan y ddinas dros 28,000 o aceri (113km sgwâr) o bercydd. Cafodd y parc ei gynllunio gan Frederick Law Olmsted a Calvert Vaux ac mae'n denu miliynau o diwristiaid bob blwyddyn.