Saturday, 3 May 2008

CHWARAEON


Talaeth Efrog Newydd oedd y gwesteiwyr ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf, ym 1980 a gynhaliwyd yn Lake Placid. Roedd y gemau yma yn arbennig yn Yr Unol Daleithiau oherywdd i grwp o fyfyrwyr coleg guro tîm proffesiynol o Rwsia. Roedd Lake Placid hefyd yn gartref i'r Gemau Olympaidd Gaeaf ym 1932. Ynghyd â 'St. Moritz' o'r Swistir, a 'Innsbruck' o Awstria, mae'n un o'r tri lle i'r Gemau gael eu cynnal.


  • Mae Efrog Newydd yn gartref i un tîm Pêl-Droed Americanaidd sef y Buffalo Bills. Mae'r 'Giants' a'r 'Mets' yn cynrychioli ardal metropolitan Efrog Newydd.

  • Dau dîm Pêl-Fâs proffesiynol sydd i'w cael yn y dalaeth. 'New York Mets (Queens)' a'r tîm Pêl-Fâs mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn y byd, 'New York Yankees (Bronx).'

  • Mae tri tîm Hoci yn Efrog Newydd. 'New York Rangers (Manhattan)', 'New York Islanders (Long Island)' a'r 'Buffalo Sabres (Dinas Efrog Newydd)'.

  • Mae un tîm Pêl Fasged i'w cael yn Efrog Newydd hefyd, sef y 'New York Knicks' sydd i'w gweld ym Manhattan.

No comments: