Wednesday, 30 April 2008

TRAFNIDIAETH


Mae gan Efrog Newydd un o'r systemau trafnidiaeth mwyaf a'r henaf yn Yr Unol Daleithiau. Y dyddiau yma, mae nifer o broblemau gan y ddinas i ddatrys. Mae Ynys Manhattan yn uchel iawn mewn dwysedd poblogaeth ac mae llawer iawn o'r adeiladau yn denau ond wedi eu hadeiladu yn uchel. Mae tir unigrwy Dinas Efrog Newydd hefyd wedi bod yn broblem i benseïrniwyr.


Mae trafnidiaeth yn Efrog Newydd yn gymysgedd o systemau cymhleth. Mae Dinas Efrog Newydd, y ddinas fwyaf yn Yr Unol Daleithiau, yn cynnwys nifer fawr o ffyrdd gwahanol o drafnidiaeth. Mae Efrog Newydd hefyd yn adnabyddus am ei ddefnydd cyson o trafnidiaeth cyhoeddus. Mae dros 90% o Americanwyr yn gyrru i'r gwaith, ond mae 1/3 o bobl Efrog Newydd yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus. Yn Yr Unol Daleithiau, dim ond 8% o deuluoedd sydd ddim yn berchen ar gar. Yn Manhattan, mae 75% o'r ynys yn byw heb geir. Mae'r ddinas yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth i leihau Cynhesu Byd Eang ac fe fafodd $4.6 biliwn o bunnoedd gan ddefnyddio fyrdd gwahanol o drafnidiaeth.


Yn yr hen oesodd, y prif ffurff o drafnidiaeth oedd y Llongau Dŵr Cadarn ar draws yr Afon Hudson. Erbyn hyn, mae'r ffurff y trafnidiaethau wedi newid. Mae 32% o'r boblogaeth yn defnyddio'r Metro, mae 25% yn gyrru yn eu cludiant eu hunain, mae 14% yn dal bws, mae 8% yn teithio ar y tren, mae 6% yn rhannu lifftiau, mae 1% yn dal tacsi, 0.4% yn reidio eu beiciau ac mae 0.4% yn teithio ar gwch.


I gymharu â'r "prif-ddinasoedd" eraill yn Yr Unol Daleithiau, mae Efrog Newydd yn cymharu'n dda o ran effeithrwydd trafnidiaeth.


Byddai car arferol yn treulio


  • 23 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Efrog Newydd

  • 50 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Los Angeles

  • 37 awr o amser mewn traffig mewn blwyddyn yn Chicago

Byddai car arferol yn gwario



  • $383 y flwyddyn ar arian tollau yn Efrog Newydd

  • $855 y flwyddyn ar arian tollau yn Los Angeles

  • $631 y flwyddyn ar arian tollau yn Chicago

Dyma faint o amser brys ar y strydoedd sydd i gael



  • 6 awr o amser brys y diwrnod yn Efrog Newydd

  • 8 awr o amser brys y diwrnod yn Los Angeles

  • 8 awr o amser brys y diwrnod yn Chicago

Mae nifer o fyrdd gwahanol yn cael ei defnyddio yn dyddiol ac mae llawer ohonynt yn cynnwys teithio dros bont. Mae Brooklyn Bridge yn enwog iawn. Dyma yw'r bont hynaf yn y ddinas ac mae'n sefyll ar daldra o 5,989 troedfedd. Mae miloedd o geir yn teithio ar hyd y bont yma bob blwyddyn




POBLOGAETH


Dyma holl ardaloedd Talaeth Efrog Newydd ac yn dangos eu poblogaeth :


Dinas Efrog Newydd : (8,143,197)
Buffalo : (279,745)
Roschester : (211,091)
Yonkers : (196,425)
Syracuse : (141,683)
Albany : (93,523)
New Rochelle : (72,967)
Mount Veron : (67,924)
Schenectady : (61,280)
Utica : (59,336)

TYWYDD


Dyma graff o'r holl ardaloedd yn Efrog Newydd ac mae'n dangos cymedr y tymheredd mewn graddau 'faranheit.'


Mae tywydd yn Efrog Newydd yn amrywio o ddydd i ddydd fel mae'n gwneud yng Nghymru. Mewn llefydd fel Smithtown a Long Island mae'n gynhesach na gweddill y ddinas ac yn taro tymheredd fel 81 gradd 'faranheit.' Er hyn, yn y Gaeaf, mae llawer o eira i'w gael gan fod y tymheredd yn disgyn yn gyflym iawn.


HANES


Pan gafodd y ddinas ei darganfod yn y flwyddyn 1524, gan y darganfyddwr Eidaleg Giovanni da Verazzano, roedd tua 5,000 o Americaniaid Brodorol yn byw yno. Roedd yn griw o Iseldirwyr yn trigo yn ardal ddeheuol yr Ynys, ac fe weithiodd y ddau gyda'i gilydd. Ond, yn y flwyddyn 1626, fe gafodd Ynys Manhattan ei brynu aw werth o tua $24. Yn yr amser hyn, roedd arian fel yma yn werthfawr iawn. Fe ail-enwodd Peter Minuit, perchennog y ddinas, yr ardal yn "New York." Mae'r enw yma wedi ei darddu ar ôl Dug Efrog.

Fe gollodd y ddinas ei phoblogaeth wrth i'r Iseldirwyr werthu'r tîr i Uchelwyr o Brydain a oedd yn byw yng Ngogledd America. Wedi hyn, fe dyfodd y ddinas mewn pwysigrwydd fel Porthladd Masnachu. Erbyn hyn, roedd Efrog Newydd yn un o'r "prif-ddinasoedd" yn Yr Unol Daleithiau'r Amerig. Wedi nifer o ryfelodd cartref fe benderfynodd y Gyngres Cyfandirol gwrdd yn Wall Street, Dinas Efrog Newydd yn 1789, ac fe benodwyd George Washington fel Arlywydd cyntaf Yr Unol Daleithiau. Mae bellach cerflun anferth ohono yn sefyll y tu allan i'r Gyfnewidfa Stoc yn Wall Street.

Yn ystod yr 19fed Ganrif fe ddatblygodd Mulberry Street, yn ardal ddeheuol Manhattan, i mewn i ddiwydiant tiwristaidd mawr a dyma erbyn hyn canolbwynt y ddinas, er nad yn ddaearyddol. Yn y flwyddyn 1811, fe gafodd cynllun o Manhattan ei greu gan enwi'r holl strydoedd o dan rifau, er enghraifft, 5th Avenue a 34th Street. Yn 1857, fe ddaeth Y Parc Canolog (Central Park) y parc mawr cyntaf yn y ddinas. Fe agorodd system drafnidiaeth tanddaearol, (The Metro Subway) yn 1901, a dyma oedd y cyntaf o'r fath yn y wlad. Yn ystod yr 1970au, fe ddioddefodd Efrog Newydd gan broblemau troseddau, terfysgaeth, economaidd a hiliol. Yn y flwyddyn 2000, roedd gan Efrog Newydd y boblogaeth fwyaf erioed yn ei hanes. Dros y blynyddoedd diweddaraf, mae'r ffigyrau wedi bod yn cynyddu yn raddol. Ac yn y flwyddyn 2001, fe gafodd y ddinas ei tharo gan nifer o ymosodiadau terfysgol a bu farw bron i 3,000 o ddinasyddion. Mae'r 'Freedom Tower' am gael ei hadeiladu fel eilydd ac mae'r Llywodraeth yn gobeithio y bydd yn barod erbyn y flwyddyn 2012.

Friday, 25 April 2008

ECONOMI EFROG NEWYDD



Mae Efrog Newydd yn un o brif ddinasoedd economi yr Unol Dalaethiau. Mae'r ddinas yn ganolbwynt i fusnes Ryngwladol a chwmnioedd arianol Rhyngwladol.

Dyma ganolbwynt cyfryngau'r byd, mae'r rhan fwyaf o'r 'Premiers' yn cymryd rhan yma.
Yn Efrog Newydd, mae'r ganolfan fasnachu fwyaf ar y blaned, er nad yw'r masnach yn cymryd lle yn Efrog Newydd yn union. Yn 2005 roedd incwm cymhedrol pob un o'r dinasyddion yn gyfanswm o $40,072 , fe godwyd hyn gan 4.2% o gymedr y flwddyn 2004. Mae Canada yn bartner busnes pwysig iawn i Efrog Newydd, fe dderbynwyd 23% o'i allforiaethau yng Nghanda yn 2004. Talaeth Efrog Newydd yw'r prif fasnachwyr bresych yn Yr Unol Daleithiau'r Amerig. Mae Efrog Newydd yn ymddangos yn y pum talaeth mwyaf amaethyddol yn ogystal.

FFEITHIAU DAEARYDDOL


CYFFREDINOL -

Iaith Swyddogol - Dim
Prif Ddinas - Albany
Dinas Fwyaf - Dinas Efrog Newydd
Ardal Fwyaf - Ardal Metropolitan Efrog Newydd

ARDAL -

Cyfan - 54,556 milltir sgwar (141,299 cilometr sgwar)
Lled - 285 milltir (455 cilometr)
Hyd - 330 milltir (530 cilometr)
% o Ddŵr - 13.3
Fertig - 40° 30′ N to 45° 1′ N
Llorwedd - 71° 51′ W to 79° 46′ W

POBLOGAETH -

Cyfan - 18,976,457
* 3ydd Mwyaf yn Yr Unol Daleithiau *
Dwysder - 401.92 milltir sgwar (155.18 cilometr sgwar)
* 6ed Mwyaf yn Yr Unol Daleithiau *

DYRCHAFIAD -

Pwynt Uchaf - Mynydd Marcy, 5,344 troedfedd ( 1.629 metr)
Pwynt Isaf - Mor yr Iwerydd, 0 troedfedd (0 metr)

GWEFAN -

Gwefan Swyddogol - http://www.ny.gov/

Wednesday, 23 April 2008

CYFLWYNIAD


Mae Efrog Newydd yn un o'r 50 talaith yng ngwlad Yr Unol Daleithiau America, ac yn un o'r tair ar ddeg talaith gwreiddiol. Mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus fel 'New York City,' sydd yn gorwedd yn ne-ddwyrain y dalaith.

Lleolir Efrog Newydd yng ngogledd-ddwyrain Yr Unol Daleithiau America, ac mae'n ffinio gyda talaethiau Lake Ontario a Canada o'r Gogledd; Pennsylvania a New Jersey o'r Gorllewin a'r De a Vermont, Massachusetts a Connecticut o'r Dwyrain

Mae Efrog Newydd hefyd yn berchen ar ynys o'r enw Long Island. Ynys fawr sy'n rhan o For yr Iwerydd. Mae Brooklyn a Queens yn ddau ardal mawr sydd ar Long Island. Mae Long Islnd a rhannau helaeth o Efrog Newydd yn cael ein galw yn 'Up-state New York.' Mae 'Up-state New York hefyd yn cynnwys Buffalo, ochester, Syracuse a Albany. Cyfradd poblogaeth bras Efrog Newydd yw 19,297,729.